Llofnodi'r llythyrGweld pwy sydd wedi llofnodi
Rydym yn croesawu cynlluniau'r Comisiwn Ewropeaidd i sefydlu Marchnad Ddigdol Sengl (MDdS) yn Ewrop. Mae nifer o ffiniau neu rwystrau eisoes wedi diflannu, ac mae amcanion cyfredol y MDdS yn mynd i'r afael â'r rhai sy'n weddill. Er hynny, mae cyfyngiadau ieithyddol yn parhau i fod yn rhwystrau mawr i ddatblygiad economi a chymdeithas Ewropeaidd sy'n wir unedig.
Mae amrywiaeth ieithyddol Ewrop yn gonglfaen ac yn ased diwylliannol i'w thrysori a'i diogelu. Fodd bynnag, mae'r rhwystrau sy'n cael eu creu gan ein 24 o ieithoedd UE swyddogol yn golygu bod y farchnad yn dameidiog ac yn methu â gwireddu ei gwir botensial economaidd. Nid yw bron hanner dinasyddion Ewrop byth yn siopa ar-lein mewn iaith nad yw'n famiaith iddynt, mae mynediad at wasanaethau ar-lein wedi'i gyfyngu i ieithoedd cenedlaethol fel arfer, ac mae cyfoeth cynnwys addysgol a diwylliannol yr UE yn gyfyngedig i gymunedau ieithyddol. Mae busnesau bach a chanolig Ewrop dan anfantais neilltuol gan fod y costau yn eu rhwystro rhag darparu gwasanaethau mewn nifer o ieithoedd ac mae'n cael effaith negyddol ar eu hysfa gystadleuol.
Yn ffodus, er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn, nid oes rhaid i Ewrop golli un o'i thrysorau pennaf, sef ei hamrywiaeth ieithyddol. Mae datblygiadau technolegol wedi arwain at awtomeiddio cyfieithu a phrosesau ieithyddol eraill. Er nad ydynt yn berffaith, mae'r technolegau hyn eisoes yn dod â buddion anferth wrth alluogi pobl i gael mynediad amlieithog a thrawsieithog at wefannau a gwasanaethau ar-lein, echdynnu gwybodaeth o ddata amlieithog, a rhoi hwb i effeithlonrwydd cyfieithwyr.
Er hynny, cwmnïau rhyngwladol o'r tu allan i Ewrop sydd yn dominyddu o ran gwasanaethau technoleg iaith a chyfieithu awtomatig, ac maent yn canolbwyntio yn bennaf ar y Saesneg a llond llaw o ieithoedd mwyaf y byd, gan anwybyddu ieithoedd Ewropeaidd gyda llai o rym economaidd. O ganlyniad, mae bron hanner dinasyddion Ewrop dan anfantais ddigidol oherwydd eu mamiaith.
Mae'r farchnad wrthi'i hun yn methu â mynd i'r afael â her ieithyddol Ewrop ac mae angen gweithredu cydunol a di-oed gan yr UE. Mae ar Ewrop angen strategaeth i ddiddymu'r rhwystrau ieithyddol, galluogi pobl a busnesau'r UE, a chreu cyfleoedd digidol cyfartal i holl gymunedau ieithyddol yr UE.
Gellir ond gwireddu potensial llawn y Farchnad Ddigidol Sengl os yw strategaeth y MDdS yn rhagweld defnydd o ddatrysiadau technolegol i oresgyn rhwystrau ieithyddol. Dylai'r datrysiadau hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, set o wasanaethau digidol ar gyfer holl ieithoedd swyddogol yr UE a fyddai ar gael i holl bobl, busnesau a sefydliadau Ewrop. Bydd gwasanaethau ieithyddol allweddol o'r fath yn caniatáu i gwmnïau technoleg a gwasanaethau ddatblygu nifer o ddatrysiadau masnachol i fodloni amrywiaeth o anghenion a gofynion gwahanol farchnadoedd.
Credwn byddai'r fath ddatrysiadau technolegol, yn seiliedig ar ddatblygiadau arloesol yn y diwydiant a chanlyniadau ymchwil yn Ewrop, yn caniatáu i holl ddinasyddion, busnesau a sefydliadau cyhoeddus Ewrop fedru defnyddio cyfieithiadau awtomatig o ansawdd uchel a datrysiadau iaith soffistigedig eraill ar gyfer busnesau, cwsmeriaid a gwasanaethau cyhoeddus rhyngwladol. Mae'r gymuned ymchwil a diwydiant Ewropeaidd yn datblygu Agenda Strategol ar gyfer y Farchnad Ddigidol Sengl amlieithog. Caiff y papur strategaeth hwn ei gyflwyno yn Uwch Gynhadledd Riga 2015 (27-29 Ebrill, 2015).
Credwn fod rhaid i strategaeth y GE ar gyfer y Farchnad Ddigidol Sengl gydnabod amlieithrwydd nid yn unig fel her ond hefyd fel cyfle anferth i hwyluso twf economaidd a chydlyniad cymdeithasol.
Rydym ni, y rhanddeiliaid isod – ymchwilwyr, datblygwyr, busnesau bach a chanolig, arweinwyr a sefydlwyr barn yn y farchnad, ac unigolion – yn gofyn i'r Comisiwn Ewropeaidd fynd i'r afael â'r her amlieithog yn y strategaeth MDdS ac addo cydweithio i gyflawni datrysiad er mwyn goresgyn rhwystrau ieithyddol, a thrwy hynny wireddu Marchnad Ddigidol Sengl wirioneddol integredig.
Llofnodi'r llythyrGweld pwy sydd wedi llofnodi